kowydd y keiliog dv
1 gida ag ieir i kai dy garv
2 y keiliog dewr ar klog dv
3 kwrelael yn karoli
4 kyfliw i bais kofl y bi
7 kastellwr diddanwr dyn
8 kasvlwydr edn keseilwyn
5 kydwr fry koed ieir yfron
6 kwbwl i amod kyw blymon
9 esgvdvll yn kynvll kad
10 esgvd wybr ysgod abad
11 ysgwl dv ar flaen osgol dar
12 ysgoblvn mewn ysgyblar
13 delw eglwyswr dail gleision
14 dilwfr brawd bregethwr bron
15 dy lifrai or mwtlai main
16 dwv lawes o deg liain
17 dwbled yt o blv y don
18 dwvael dy fentyll dvon
19 kryfyddwisg yt a wisgwyd
20 kryfydd serch kryfyddys wyd
21 ni myni ben ymwanwr
22 bwyd ydydd ond bedw a dwr
23 [358] bwyd o frig koed bedw y fron
24 bwyd iair fydd bedw irion
25 dy waith yw dwvwaith bob dydd
26 er i mwyn ieir y mynydd
27 yn ael koed kynal kadoedd
28 a rhif gwr tra rhyfig oedd
29 gwyddost gyfran ar lanerch
30 holl byngkiav mesvrav serch
31 beiddiwr aer bydd yrowron
32 latai ym at ddevliw ton
33 kyfeiria agkw yforv
34 y dwyrain dan dorvn dv
35 oni ddelych i ddolydd
36 dyffryn gwaisg addwyn a gwydd
37 a ffrif afon fferf ofwy
38 a ran y ddol wair yn ddwy
39 adail yn lled deilio yn llawn
40 ag adar go gyfoediawn
41 disgin edn dos genadwr
42 i lyn dail o lan y dwr
43 gwel or koed gwilia wr kain
44 hael dewr am havl y dwyrain
45 degle yn nes dwg i liw nyf
46 ddeg anerch o ddigenyf
47 dan arwydd ddav dawn ir ddyn
48 erchi ym ai orchymyn
49 doe yn llan garv dan llaw
50 ag o beth i gobeithiaw
51 dowaid i wen liw ysblenydd
52 deled i oed deyliw dydd
53 os daw hon nos da yw hwyneb
54 i fynydd ni wybydd neb
dafydd ap gwilym